Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Mair Tomos Ifans - Y Cwestiwn

Rhaglen Dylan Jones

Available for over a year

Ar y ffordd i'r stiwdio 'ma heddiw Mi a dybiais fod gen i yr hawl I neidio ar bob dyn a welwn A'u swyno a'm canu a'm mawl. Y mae heddiw yn ddiwrnod Sant Oswald, Mis Chwefror y dau ddeg a naw, Neu'r nawfed ar hugain os mynnwch - Yr un ydi'r diwrnod pan ddaw. Ac mi ddaw o pob pedair blynedd, A minnau yn edrych ymlaen Yn eiddgar iawn ers cyn Dolig I gyrraedd y wal efo'r maen. Mi neidiais i ddechra 'r Dei Tomos, Dwi reit ffond o ddynion 'fo blew, Ond wedi mi ofyn y cwestiwn, Mi ddwe'dodd fy mod i rhy dew .... Y nesa' i mi daro arno Oedd y Cardi 'na Geraint Lloyd, Ac er cynnig gwaddol sylweddol, Mi 'tebodd o 'Na' yn ddi-oed! A wedyn mi neidiais ar Tomo, Gofynais yn uchel a ffast, Ond chlywodd rhen Tomo mo'n nghwestiwn - Toedd Brian a'i organ ffwl blast! Dychrynias yr hen Gari Owen Pan ffoniais i Taro'r Post A gofyn fy nghwestiwn yn gryno, Atebodd "Ond beth am y gost " Mi neidiais, cofleidiais rhen Tudur, Roedd y crac yn dda iawn rhaid deud, Ond sgrechiodd yn uchel a'm rhegi ... ond 'dwi'm'n dallt be' dwi' di 'neud ! A wedyn mi welais i Dylan A gofyn yn blwmp ac yn blaen, Ond geiriau go fwys ges i'n ateb, Roedd o dan dipyn o straen. ' Mond siom ar ôl siom fu fy more, Af adre i grio'n yr ardd, A gofyn y cwestiwn eto i' ngwr "A wnei di fy ngalw i'n fardd ?"

Programme Website
More episodes