Episode details

Available for over a year
COCYLS A MYSYLS – ( neu Moli Mael Eòin ) Ddydd Sul mae y rygbi, hwylio o Gaergybi, A glanio’n Dún Laoghaire – yn yr hen Ynys Werdd, Bydd y shamroc a’r cennin yn canu a chwerthin, Fydd hi’n gocyls a mysyls - Hei ho hei di ho. Hei ho hei di ho, Hei ho hei di ho - Fydd hi’n gocyls a mysyls - Hei ho hei di ho. Gobeithiaf gael cwmni rhyw Wyddel go hynci, A’i enaid llawn Blarney ac alaw a dawns, Bydd ei shamroc a’m cennin yn canu a chwerthin, Fydd hi’n gocyls a mysyls - Hei ho hei di ho - Hei ho hei di ho, Hei ho hei di ho - Fydd hi’n gocyls a mysyls - Hei ho hei di ho Bum unwaith i’r Alban at y pibau a’r sporan, Ond roedd Joc yn rhy wantan, mi chwythodd ei blwc, Doedd ei ysgall na’m cennin Ddim awydd chwerthin, Dim cocyls na mysyls, Dim hei a dim ho - Dim hei a dim ho, Dim hei a dim ho - Dim cocyls na mysyls - Dim hei a dim ho. Anghofiwch y Ffrancwyr, ‘sdim hôps i’r Eidalwyr Na’r Saeson disynnwyr i’m hudo i’w gwlad, Mond shamroc o Werddon Sy’n goglais fy nwyfron, Efo’i gocyls a’i fysyls - hei ho hei di ho - Hei ho hei di ho, Hei ho hei di ho - Fydd hi’n gocyls a mysyls - Hei ho hei di ho
Programme Website