Episode details

Radio Cymru,5 mins
Aled Lewis Evans - cerdd am wasanaeth plygain Llanarmon Dyffryn Ceiriog.
Bwrw GolwgAvailable for over a year
PLYGAIN (Plygain Llanarmon Dyffryn Ceiriog) Ar ddiwedd y ras a'r ciniawa, awn am dro unwaith eto i bendraw'r Cwm. Ar ddiwedd blwyddyn arall - i glywed carol, a darlleniad am Ymgnawdoliad sy'n ein hail gyfeirio. Heibio holl ystyriaethau byd, heibio'r rhengoedd, heibio'r breintiau, at ganu gwerin am Faban bychan yn y gwair. Heibio'r arian sydd fel arfer yn siarad, at hen alaw gynefin ar organ, a darlleniadau cyfarwydd sy'n ein clymu oll yn ein dynoldeb pechadurus; ein hunig obaith yw'r Ceidwad yn y Crud. Heibio'r acenion a’r dillad gorau, heibio'r ddelwedd a chwenychir at alaw a ganodd angylion "Gogoniant yn y goruchaf i Dduw" Cyfarfod blynyddol â ni ein hunain, ac â'n Duw, ar noson pan mae seren yn yr awyr eto ym mhendraw'r Cwm.
Programme Website