Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,12 mins

“This is not soccer!” – cerdd Aneirin Karadog i Nigel Owens

Bore Cothi

Available for over a year

Aneirin Karadog yn sgwrsio gyda John Hardy am farddoniaeth a rygbi, a cherdd newydd i Nigel Owens, sy'n debygol o ddyfarnu gêm derfynol Cwpan Rygbi'r Byd. “This is not soccer!” Mae un o’r cwm yn nhwrw’r cae. Un gŵr: Ceiliog gwynt y campau; Gŵr a ddofa gyhyrau Y maes o’i dweud fel y mae. O ferw llafar y llwyfan a’i holl sŵn Drwy’r gwyll seinia’i gytgan; Gall dorri crib a’i chwiban Neu roi cais yn glochdar cân. Trwy orwelion chwarter eiliad y gwêl Fel hebog ias rhediad A mès o gyrff maes y gad Gan olygon ei lygad. Pan ddaw torf a’i thymer i’w herian e Ni chlyw un yn sgrechian; Ei Wendraeth yw dur a thân ei lais dros lu a’i hisian. Am unwaith mae Nigel am ennill! Saif Ei enw’n sawl pennill A thôn llawn sôn fesul sill Yn waedd am guro’r gweddill. Yn ein cân ni fydd gwahaniaeth rhwng dyn, Rhwng dawn dynoliaeth I uno gwŷr a fu yn gaeth, Yn deulu o frawdoliaeth. Mae un o’r cwm yn arwr cêl drwy’r stŵr, Un gŵr ar y gorwel; Yn ddiduedd o dawel, Mor wych yw’r Gymru a wêl. Aneirin Karadog

Programme Website
More episodes