Episode details

Available for over a year
Cerdd Arall am Dryweryn Fan hyn mae llyn llonydd i’r llygad estron. Fan hyn mae llyn llonydd i’r llygad Cymreig. Llyn arall yn y clytwaith sy’n harddu’r anialwch gwyrdd, tu hwnt i’r tai yn y Wales o werth, lle mae’r bunt yn goleuo’r dydd. Efyrnwy. Elan. Epynt a’i lyn o waed… Ond fan hyn ein dafnau ni fu’n cronni fesul litr: Diferion o farddoniaeth yn pwyso’n anesmwyth ar waelodion ein cydwybod. Ffrydia ein dirywiad fesul gair fan hyn. Fan hyn, mae pob enaid alltud, fan hyn, mae’r sawl a drodd ei gefn a’r sawl a gaeodd ei lygaid rhag gweld ein Aberhenfelen ein hunain. Fan hyn, mae pawb a dorrodd ei dafod a’i luchio ar fachyn ei wialen bysgota yn abwyd i geisio cnoiad gan bysgod y byd bas. Ond y dwfn du hwn yw’r llwfrdra fu’n cronni, Eco’r Gymraeg sy’n crychu wyneb y dŵr a’i oerfel yw’r croen gŵydd o weld pentre arall yn mynd… Wrth i ni geisio’r tir sych rhwng llynnoedd a cheisio peidio glwychu’n traed, ein gwaith ni oll dan wawr arall yw ceisio peidio a boddi ac yna dysgu eraill sut i nofio, rhag ofn… Aneirin Karadog – Bardd y Mis – Hydref 2015
Programme Website