Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,5 mins

Dirgelion Nas Datryswyd

Tocyn Wythnos

Available for over a year

Fel yn achos unrhyw brifwyl, Mae sawl cwestiyn go annisgwyl Wedi codi yma’n Meifod. Oes atebion? Dwi’m yn gwbod. Mae’r Pafiliwn yn binc ’leni, Ond pa liw fydd o yn Y Fenni? Faint cyn y Steddfod mae “cae” yn troi’n “faes”? Sawl Gorseddigyn sydd angen help staes Er mwyn mynd mewn i’w cynfasau lliwgar? Pa mor hwyr mae hi’n bosib cael noson gynnar? Ar ôl stopio cerdded, tybed sawl stôn Yn drymach erbyn Dolig fydd Beryl Vaughan? Wrth i’r wythnos fynd rhagddi, daw’r cwestiynau’n un fflyd: Os oes Dawns Stryd i Bâr, pam ddim Dawns Bar i Stryd? Oedd elw y towts ar docynnau Gwydion Yn fwy neu’n llai nag elw’r lle sglodion? Ar stondin Radio Cymru, ydi ceg poster Tommo Yn fwy neu’n llai na’i geg go iawn o? Sgwn i be arall heblaw pidoffilia Sy’n bwnc tabŵ ym myd llenydda? Ydi hi’n bosib gwahaniaethu Go iawn rhwng adrodd a llefaru? Slot Chwarter i Chwech ’di’r dirgelwch nesa’. Yr amser neu’r enw. Pa un ddaeth gynta’? Pwy feddyliodd fod maes y Steddfod Angen chwaneg o fwncïod? O’r rhai oedd yn cythru i brynu cyfrolau Y Fedal a’r Daniel, a’r Cyfansoddiadau, Tybed faint oedd yn gwneud hynny’n unig Er mwyn rhoi’r argraff bod nhw’n ddiwylliedig? Gan bod Lolfa Lên i lenyddiaeth iach, Pam ddim Bathrwm Llên i hiwmor tŷ bach? A’r un cwestiwn ola’ sy’n dal i ’mhoeni. Os oes ’na heddwch, pam mae’n rhaid gweiddi?

Programme Website
More episodes