Dirgelion Nas Datryswyd
Cerdd gan bardd y mis - Arwel 'Pod' Roberts - yn edrych yn ol ar Eisteddfod Meifod.
Fel yn achos unrhyw brifwyl,
Mae sawl cwestiyn go annisgwyl
Wedi codi yma’n Meifod.
Oes atebion? Dwi’m yn gwbod.
Mae’r Pafiliwn yn binc ’leni,
Ond pa liw fydd o yn Y Fenni?
Faint cyn y Steddfod mae “cae” yn troi’n “faes”?
Sawl Gorseddigyn sydd angen help staes
Er mwyn mynd mewn i’w cynfasau lliwgar?
Pa mor hwyr mae hi’n bosib cael noson gynnar?
Ar ôl stopio cerdded, tybed sawl stôn
Yn drymach erbyn Dolig fydd Beryl Vaughan?
Wrth i’r wythnos fynd rhagddi, daw’r cwestiynau’n un fflyd:
Os oes Dawns Stryd i Bâr, pam ddim Dawns Bar i Stryd?
Oedd elw y towts ar docynnau Gwydion
Yn fwy neu’n llai nag elw’r lle sglodion?
Ar stondin Radio Cymru, ydi ceg poster Tommo
Yn fwy neu’n llai na’i geg go iawn o?
Sgwn i be arall heblaw pidoffilia
Sy’n bwnc tabŵ ym myd llenydda?
Ydi hi’n bosib gwahaniaethu
Go iawn rhwng adrodd a llefaru?
Slot Chwarter i Chwech ’di’r dirgelwch nesa’.
Yr amser neu’r enw. Pa un ddaeth gynta’?
Pwy feddyliodd fod maes y Steddfod
Angen chwaneg o fwncïod?
O’r rhai oedd yn cythru i brynu cyfrolau
Y Fedal a’r Daniel, a’r Cyfansoddiadau,
Tybed faint oedd yn gwneud hynny’n unig
Er mwyn rhoi’r argraff bod nhw’n ddiwylliedig?
Gan bod Lolfa Lên i lenyddiaeth iach,
Pam ddim Bathrwm Llên i hiwmor tŷ bach?
A’r un cwestiwn ola’ sy’n dal i ’mhoeni.
Os oes ’na heddwch, pam mae’n rhaid gweiddi?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni BBC Radio Cymru.
Mwy o glipiau Tocyn Wythnos
![]()
Y Lle Celf
Hyd: 11:34



