Episode details

Available for over a year
Wrth edrych ymlaen at wyliau Gorffennaf Nid ar egwyddor yr heidiwn i’r trefi gyda’n pebyll, carafanau a booking confirmations gwestai rhad. Nid mater cydwybod wedyn, chwaith, ydi dawnsio a meddwi a mwydro mwy na’n harfer, a thaflu’n pryder i’r brain sy’n aros cyfle yn hyrddiadau’r gwynt. Nid gwneud pwynt gwleidyddol yw mwynhau ein hunain. Ond eto, o heidio o bedwar ban cawn weld nad ofer ein breuddwydion chwaith wrth weld tystion glannau Taf a phrofi fod digon ohonom i gynnal gŵyl. Cawn glywed Wnion yn firi i gyd yn suo’r nos i gysgu a ger Seiont wedyn cawn deimlo’n chwithig, ella, fod rocyrs â’u gwalltiau cyrliog yn bloeddio’n bodolaeth yng nghlustiau’r byd o grud ein darostyngiad. Nid dim-ond-gŵyl mo unrhyw ŵyl, ac wrth lenwi’r car a throi am adra, bydd gobaith yn cyniwair ar unwaith am “flwyddyn nesa”.
Programme Website