Wrth edrych ymlaen at wyliau Gorffennaf - Elis Dafydd
Wrth edrych ymlaen at wyliau Gorffennaf
Nid ar egwyddor yr heidiwn i’r trefi
gyda’n pebyll, carafanau a booking
confirmations gwestai rhad.
Nid mater cydwybod wedyn, chwaith,
ydi dawnsio a meddwi a mwydro mwy
na’n harfer, a thaflu’n pryder i’r brain
sy’n aros cyfle yn hyrddiadau’r gwynt.
Nid gwneud pwynt gwleidyddol yw mwynhau ein hunain.
Ond eto, o heidio o bedwar ban
cawn weld nad ofer ein breuddwydion chwaith
wrth weld tystion glannau Taf a phrofi
fod digon ohonom i gynnal gŵyl. Cawn glywed
Wnion yn firi i gyd yn suo’r nos i gysgu a ger Seiont
wedyn cawn deimlo’n chwithig, ella,
fod rocyrs â’u gwalltiau cyrliog yn
bloeddio’n bodolaeth yng nghlustiau’r byd o grud
ein darostyngiad.
Nid dim-ond-gŵyl mo unrhyw ŵyl,
ac wrth lenwi’r car a throi am adra,
bydd gobaith yn cyniwair ar unwaith am “flwyddyn nesa”.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 01/07/2015
![]()
Sgwrs a Cherdd
Hyd: 05:02
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
![]()
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
![]()
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
![]()
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
![]()
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39







