Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Cymru,3 mins

Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd: Sêr rygbi Cymru a laddwyd yn y Rhyfel

Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru

Available for over a year

Alun Thomas sy'n adrodd am y 13 o ddynion oedd wedi cynrychioli Cymru yn rhyngwladol ar y cael rygbi, ac a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd rygbi Cymru yn mwynhau oes aur pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y tîm cenedlaethol wedi ennill y Gamp Lawn gyntaf a buddugoliaethau hanesyddol dros Seland Newydd oedd yn golygu na wnaeth neb eu curo rhwng mis Mawrth 1907 a mis Ionawr 1910. Bu farw dros 40,000 o Gymry yn y Rhyfel Mawr. Roedd 13 ohonyn nhw hefyd wedi cael yr un profiad balch o wisgo'r crys coch fel aelodau o dîm rygbi rhyngwladol Cymru, sef: Richard Thomas, John Lewis Williams, David Westacott, Horace Wyndham Thomas, Richard Davies Garnons Williams, Charles Gerald Taylor, Louis “Lou” Augustus Phillips, Charles Meyrick Pritchard, Philip Dudley Waller, Brinley Richard Lewis, William “Billy” Purdon Geen, Fred Leonard Perrett a David Watts. Lleoliad: Stadiwm y Mileniwm, Stryd Westgate, Caerdydd, CF10 1NS Llun drwy garedigrwydd Undeb Rygbi Cymru a Liz Jones

Programme Website
More episodes