Episode details

Available for over a year
Helpodd y chwiorydd Davies o Neuadd Gregynog i roi lloches i ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y clip yma mae Dei Tomos yn sgwrsio â Rhian Davies, Cyfarwyddwr Gŵyl Gregynog, am y cerddorion a ddaeth fel ffoaduriaid i Gymru yn ystod y rhyfel. Yn eu plith roedd perfformwyr a chyfansoddwyr. Daw'r clip o raglen Dei Tomos, Radio Cymru ar Hydref 12, 2014. Lleoliad: Neuadd Gregynog, Tregynon, Y Drenewydd, Powys, SY16 3PW Llun: Neuadd Gregynog gan Huw Evans
Programme Website