Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
‘exegi monumentum aere perennius’ y bardd bach uwch beirdd y byd hedodd ei angau i Barcelona hefyd a minnau’n syfrdan yn y Sagrada Familia yn gwylio breichiau’n codi, yn ceisio dal goleuni, ymbil eu camerâu yn ofer ridyllu tragwyddoldeb i’w lluniau di-rifedi, wrth addoli gwaith dyn a gynganeddai feini. Ac yn offeren ansicr y breichiau synhwyrwn chwithdod fy mhobl innau yn ymbalfalu am eiriau, yn ceisio snapio teyrngedau. O am gael naddu ystyr fel pensaer ein neuaddau, pencerdd dyfnderoedd ein dyheadau a grynhoai fydoedd mewn cwpled cymen, a’i awdlau’n codi’n glochdyrau amgen. Ond fe’i dathlwn, tra cerddwn ei gynteddau, mae pob carreg yn sill yng ngweddi’r oesau. Ifor ap Glyn 10
Programme Website