Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

Y GLÊR: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Torf

Y Talwrn

Available for over a year

Mor araf uwchben Marlay Park yw treiglad y cymylau; yn rhydd, yn llonydd, fel y myn las a gwyn ein hugeiniau iddynt fod cyn dyfod iaith i oeri'n calonnau. Mae 'na ewin o heulwen sydd o hyd yn llosgi, yn dal i grafu'r gwrthryfel na all beidio â chosi. Ond mae hi'n Sul yn Nulyn a neb yn sylwi: cyd-ganwn i’n gŵyl ac arogli'r alawon sy’n drech nac ystyr, yn deffro angylion, yn gusan rhwng y miloedd na fu eto'n gyfeillion. Yn hwyr dros Marlay Park fe gwymp arcêd o olau a chytser o glitter yn llwch o liwiau a'r rheiny'n rhydd fel y galon cyn dyfod y geiriau. Osian Rhys Jones (Eurig Salisbury yn darllen) 9

Programme Website
More episodes