Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Dewch i mewn, eisteddwch i lawr – ond plîs, ddim rhy gyfforddus, Mae ambell un ‘di bod o’ch blaen ond doeddwn i’m yn hapus; A allwch newid ffiws ? A phlwg ? A gwnio ffansi dress ? Sut mae’ch ‘lemon drissle’ chi ? Cawl Cennin ? ‘Eton Mess’ ? ‘Di’ch drôrs chi’n llawn o shyfflach ? Jar fotymau fawr fawr fawr ? A pha mor sych y bydd eich mop wrth ichi olchi’r llawr ? ‘Plygu shetin ? Plygu ‘sheet’ ? A newid bag yr hwfyr ? Nafigêtio carafan yr holl ffordd lawr i Dover ? ‘Di Tommo’n well na Geraint Lloyd ? neu ydio’n waeth na Jonsie ? Nid mod i’n gwrando – fyddwch chi ? – mae’n well gen i Sian Cothi .. Pa fudiad yw eich dewis ? M.Y.W neu’r W.I A chofiwch bod rhaid ‘chi ddewis o leiaf un o’r ddau ! Trefnu biliau? Golchi car ? A phalu’r ardd a chrowsio ? Torri coed a gosod tân ? Ac ateb ffôn a phaentio ? Rhostio cig ? Ac agor tun ? A chwipio hufen weithiau ? Plwmpio clustog? Cosi bol ? A chneifio gwallt a chlustiau ? Mi wnewch y tro, fe gewch y job o warchod Nhrysor i Mae’n hen bryd iddo briodi siawns ac yntau’n ffiffti thrî ! Mair Tomos Ifans 9.5
Programme Website