Episode details

Available for over a year
Helo bigwyr pop, croeso i raglen lawn dop, dyma hits yn ddi-stop i’ch clustiau, Rhowch y gorau i duchan, mae ein rhaglen deg ucha’n cyflwyno goreuon y siartiau. yn dal yn y rhestr ond lawr i rif 10 – Luis Suarez a’i albwm cerdd dant, mae’n ddychrynllyd o dda, ond cofiwch, rieni, am y rhybudd ‘anaddas i blant’. Anaddas i blant ydi’r gân sy’n rhif 9 hefyd – Rolf Harries, ‘Dwy eneth fach’, A rhaid deud, dydi ‘Clyma fy nghangarŵ lawr’ erbyn hyn ddim yn swnio mor iach. Yn rhif 8 – deuawd hyfryd gan Cerys ac Efa, “Bob dydd pan ddeffroaf i, Diolchaf yn daer i’r Arglwydd am fy ngwneud i yn MBE”. Rhif 7 – Cyn benaethiaid Betsi Cadwaladr a “Money (that’s all I want)” A fyny i rif 6, Neville Southall a’i fersiwn unigryw o “Croesi’r bont”. Rhif 5 “Flower of Scotland” gan Andy Murray, er nad ydi o’n fawr o ganwr, Cafodd fod yn Brydeiniwr am sbel y llynedd ond bellach mae’n ôl yn Albanwr. Yn dal yn rhif 4 mae’r hen Edward H ar y stêj, maen nhw’n dal i ganu Wedi gollwng yr ‘Edward’, ‘H’ ydyn nhw bellach, ond mae’n dda iawn eu clywed heb dewi. A rhif 3 lawr o un, dyma’r dyn ei hun, Dewi Pws gyda Meibion Crannog, Ond er yr holl ffws, does dim golwg o Pws, mae ’di mynd nôl i Flaenau Ffestiniog. Ac i fyny i rif 2 cyn Weinidog y Bae Alun Davies yn canu ‘Ffarwél’, Ac yno’n y cefndir mae côr o amaethwyr yn morio y gytgan yn ddel. Ac yn rhif 1 gyda bwled – hoff foi-band y merched – Ap Glyn, Ger, Ifan, a Llion, Rôl tawelwch rhy faith maen nhw’n ôl fatha saeth – ar y brig mae Hogia Caernarfon. Geraint Lovgreen 9.5
Programme Website