CAERNARFON: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Y Deg Uchaf
CAERNARFON: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Y Deg Uchaf
Helo bigwyr pop, croeso i raglen lawn dop, dyma hits yn ddi-stop i’ch clustiau,
Rhowch y gorau i duchan, mae ein rhaglen deg ucha’n cyflwyno goreuon y siartiau.
yn dal yn y rhestr ond lawr i rif 10 – Luis Suarez a’i albwm cerdd dant,
mae’n ddychrynllyd o dda, ond cofiwch, rieni, am y rhybudd ‘anaddas i blant’.
Anaddas i blant ydi’r gân sy’n rhif 9 hefyd – Rolf Harries, ‘Dwy eneth fach’,
A rhaid deud, dydi ‘Clyma fy nghangarŵ lawr’ erbyn hyn ddim yn swnio mor iach.
Yn rhif 8 – deuawd hyfryd gan Cerys ac Efa, “Bob dydd pan ddeffroaf i,
Diolchaf yn daer i’r Arglwydd am fy ngwneud i yn MBE”.
Rhif 7 – Cyn benaethiaid Betsi Cadwaladr a “Money (that’s all I want)”
A fyny i rif 6, Neville Southall a’i fersiwn unigryw o “Croesi’r bont”.
Rhif 5 “Flower of Scotland” gan Andy Murray, er nad ydi o’n fawr o ganwr,
Cafodd fod yn Brydeiniwr am sbel y llynedd ond bellach mae’n ôl yn Albanwr.
Yn dal yn rhif 4 mae’r hen Edward H ar y stêj, maen nhw’n dal i ganu
Wedi gollwng yr ‘Edward’, ‘H’ ydyn nhw bellach, ond mae’n dda iawn eu clywed heb dewi.
A rhif 3 lawr o un, dyma’r dyn ei hun, Dewi Pws gyda Meibion Crannog,
Ond er yr holl ffws, does dim golwg o Pws, mae ’di mynd nôl i Flaenau Ffestiniog.
Ac i fyny i rif 2 cyn Weinidog y Bae Alun Davies yn canu ‘Ffarwél’,
Ac yno’n y cefndir mae côr o amaethwyr yn morio y gytgan yn ddel.
Ac yn rhif 1 gyda bwled – hoff foi-band y merched – Ap Glyn, Ger, Ifan, a Llion,
Rôl tawelwch rhy faith maen nhw’n ôl fatha saeth – ar y brig mae Hogia Caernarfon.
Geraint Lovgreen
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 20/07/2014 - Caernarfon v Crannog
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29









