Episode details

Available for over a year
Drain (Defnyddir Draenen Wen(Hawthorn) i wneud gwrych) Â dwy law, f’anwyliad O raid fu’n gosod clawdd. Plygu cain a phleth mewn tro Bonion praff ei lafurio’n creu campwaith o bigiadau, Coron ar ein caeau aur. Y gwrych yn ffin i ffynnu a ffrwytho dro ‘rôl tro. Cripiadau ei lafur sy’n gwaedu’n y perthi plyg, cartref i’r deryn du ganu er côf eleni, ac yno’n blaguro’i barhâd mae plethwaith o gariad. Nia Mon (Gwyneth Glyn yn darllen) 9
Programme Website