Episode details

Radio Cymru,1 min
Available for over a year
Wele’r Dic Sion Dafyddion, a’r llu o wleidyddion A’r parchus swyddogion digalon eu gwedd Ynghyd ar cynghorwyr a’r syber ‘wladgarwyr’ Hebryngwyr ein hiaith i’w hir annedd. Swyddogion Cynllunio, maen nhw hefyd yno, Yn rhyw esgus o gwyno a chrio’n ddi-chwaeth, Gohebwyr Llundeinig, trwsiadus, dinesig, A’u hwylo gor-drasig a helaeth. A’r rhiaint esgeulus, bu pob un a’i esgus Tros gadw’r iaith felys rhag gwefus eu plant, Peth od o ddigyffro fu’r gwrthod trosglwyddo A rhwymo eu hil wrth hen ramant. Ta waeth mae’r orymdaith yn mynd ar ei hymdaith At dir llaith a diffaith ar gyrion y dre Hen iaith llawn cyfaredd a roddir o’r diwedd I orwedd mewn tywyll ddaearle. A nawr wedi’r claddu cawn gyfle i ddathlu Naw wfft i alaru, cawn ganu yn llon Fe godwyd hen bwysau yn rhwydd o’n hysgwyddau A siawns na chawn ninnau droi’n Saeson. Dafydd Morgan Lewis 8
Programme Website