Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

ABERHAFREN: Cân (heb fod dros 20 llinell) ar y mesur tri thrawiad: Brawd Mogi yw Tagu

Y Talwrn

Available for over a year

Brawd Moggie oedd Taggie; brawd Taggie oedd Moggie; dau gwrcath bach heini, ond stori drist yw am ffawd a thrueni, a’r bai sydd ar Pegi o ardal y Fenni, hen fenyw go hoff o fwyd sbeisi. Bu’n magu ein Moggie a Taggie am gwmni, i fod yn ei gŵydd, i gnoi ei charpedi a chanu eu grwndi a byw mewn diogi, ond digwydd a wnaeth yr hen Begi un dydd gwcio cyri i Moggie a Taggie, cyn llenwi yn llwyr y cyri a'i rêfi â gormod o tsili o fferm yn Nysynni. Pa synnwyr? “Miaw miaw” meddai Taggie, “miaw miaw” meddai Moggie, “What now?” holodd Pegi cyn sylwi yn syn mai tagu wnâi Moggie a mygu wnâi Taggie wrth lyncu’u powlenni fel enwyn. Mor drist yw fy stori; y tsili’n rhy dedli; i Moggie a Taggie mi ordrwyd dwy hers. Dau frawd wedi trengi mewn anffawd mor sili; eu diwedd fu’n fési; mae’n foeswers. Rhys Iorwerth 9.5

Programme Website
More episodes