ABERHAFREN: Cân (heb fod dros 20 llinell) ar y mesur tri thrawiad: Brawd Mogi yw Tagu
Brawd Moggie oedd Taggie; brawd Taggie oedd Moggie;
dau gwrcath bach heini, ond stori drist yw
am ffawd a thrueni, a’r bai sydd ar Pegi
o ardal y Fenni, hen fenyw
go hoff o fwyd sbeisi. Bu’n magu ein Moggie
a Taggie am gwmni, i fod yn ei gŵydd,
i gnoi ei charpedi a chanu eu grwndi
a byw mewn diogi, ond digwydd
a wnaeth yr hen Begi un dydd gwcio cyri
i Moggie a Taggie, cyn llenwi yn llwyr
y cyri a'i rêfi â gormod o tsili
o fferm yn Nysynni. Pa synnwyr?
“Miaw miaw” meddai Taggie, “miaw miaw” meddai Moggie,
“What now?” holodd Pegi cyn sylwi yn syn
mai tagu wnâi Moggie a mygu wnâi Taggie
wrth lyncu’u powlenni fel enwyn.
Mor drist yw fy stori; y tsili’n rhy dedli;
i Moggie a Taggie mi ordrwyd dwy hers.
Dau frawd wedi trengi mewn anffawd mor sili;
eu diwedd fu’n fési; mae’n foeswers.
Rhys Iorwerth
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Aberhafren yn erbyn Crannog
![]()
CRANNOG: Englyn - Mentr
Hyd: 00:12
![]()
ABERHAFREN: Englyn - Mentr
Hyd: 00:09
![]()
CRANNOG: Trioled - Encil
Hyd: 00:21
![]()
ABERHAFREN: Trioled - Encil
Hyd: 00:19
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29








