Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Cywydd Mawl Richard III

Tudur Owen

Available for over a year

Moliant i Risiart Ym Mryn Meirion mae wariar, ariannog un, brenin gwâr, t’wysog herciog o Iorcyn yw gŵr y petalau gwyn. Rhisiart, ar dop siart ein sêr yw gogoniant pnawn Gwener, t’wysog tu hwnt i oesau: y dyn hwn sy’n mynd yn iau, yr un dyn sy bob tro’n dod o’i alw’n ôl o’r gwaelod, ag acen hardd gocni iach yn aileni hen linach. Sais yw sydd yn ein suo â hafn hardd ei lais dwfn o, Y Sais uwchlaw’r holl Saeson a Sais mwy na Royals Môn, T’wysog carpiog y carparc a’r hoel moel yn dangos marc lle bu llaw Cymro llawen ar y baedd yn torri’i ben. Y mae’n hysbys ddawnus ddyn o gyff arfog, a phyrfyn. Sglyfath: t’wysog a’i lafoer a’i wich wag, a’i beswch oer Ond nid sgerbwd o gwdyn: un cadarn bob darn yw’r dyn. Hoff iawn yw hwn o affêrs: Rhisiart a Manon Rhosiers yw y sôn a glywais i... Ond lodes arall, ledi o Borthmadog yw’r hogan sy bob tro’n roid o ar dân: Dyl Mei, sy fel diliau mêl ar fin ein brenin anwel. Hen hwrgi oedd yn wargam: ond rywfodd, fe gafodd gam, Y gŵr a’i lais o Gaerlŷr. Na hidiwn Harri Tudur: Rhown ni hwn yng Nghymru’n ôl, y llais marw llesmeiriol. Ym Mryn Meirion mae’i weryd, ynom ni y mae o hyd bellach yn iach, yn awchu â’i wich cras a’i beswch cry. Ond pam sôn am goroni? Am ei ben rhown OMB! A ni oll sy’n gwybod hyn: Y ti, Rhisiart, yw’r Rhosyn.

Programme Website
More episodes