Cywydd Mawl Richard III
Cywydd Mawl Richard III
Moliant i Risiart
Ym Mryn Meirion mae wariar,
ariannog un, brenin gwâr,
t’wysog herciog o Iorcyn
yw gŵr y petalau gwyn.
Rhisiart, ar dop siart ein sêr
yw gogoniant pnawn Gwener,
t’wysog tu hwnt i oesau:
y dyn hwn sy’n mynd yn iau,
yr un dyn sy bob tro’n dod
o’i alw’n ôl o’r gwaelod,
ag acen hardd gocni iach
yn aileni hen linach.
Sais yw sydd yn ein suo
â hafn hardd ei lais dwfn o,
Y Sais uwchlaw’r holl Saeson
a Sais mwy na Royals Môn,
T’wysog carpiog y carparc
a’r hoel moel yn dangos marc
lle bu llaw Cymro llawen
ar y baedd yn torri’i ben.
Y mae’n hysbys ddawnus ddyn
o gyff arfog, a phyrfyn.
Sglyfath: t’wysog a’i lafoer
a’i wich wag, a’i beswch oer
Ond nid sgerbwd o gwdyn:
un cadarn bob darn yw’r dyn.
Hoff iawn yw hwn o affêrs:
Rhisiart a Manon Rhosiers
yw y sôn a glywais i...
Ond lodes arall, ledi
o Borthmadog yw’r hogan
sy bob tro’n roid o ar dân:
Dyl Mei, sy fel diliau mêl
ar fin ein brenin anwel.
Hen hwrgi oedd yn wargam:
ond rywfodd, fe gafodd gam,
Y gŵr a’i lais o Gaerlŷr.
Na hidiwn Harri Tudur:
Rhown ni hwn yng Nghymru’n ôl,
y llais marw llesmeiriol.
Ym Mryn Meirion mae’i weryd,
ynom ni y mae o hyd
bellach yn iach, yn awchu
â’i wich cras a’i beswch cry.
Ond pam sôn am goroni?
Am ei ben rhown OMB!
A ni oll sy’n gwybod hyn:
Y ti, Rhisiart, yw’r Rhosyn.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Tudur Owen
![]()
Y Dorf Yn Ffrainc
Hyd: 01:18
![]()
Pa iaith 'dach chi'n ei siarad efo cŵn?
Hyd: 01:03





