Episode details

Available for over a year
Mae’r bysedd bach yn brysur Yn taenu’r lliwiau’n fras Dros bapur a dry’n rhychau O felyn, coch a glas. “Llun hardd o’r haul yn machlud I’r tonnau,” meddwn i; “Neu lun o ddail yr hydref Yn bentwr wrth y tŷ.” Roedd dirmyg yn y llygaid Wrth holi’n swrth fel hyn: “Oes rhaid i chi’r oedolion Droi’r byd yn ddu a gwyn?” Rachel James 9
Programme Website