Main content

Telyneg: Paent

Mae’r bysedd bach yn brysur
Yn taenu’r lliwiau’n fras
Dros bapur a dry’n rhychau
O felyn, coch a glas.

“Llun hardd o’r haul yn machlud
I’r tonnau,” meddwn i;
“Neu lun o ddail yr hydref
Yn bentwr wrth y tŷ.”

Roedd dirmyg yn y llygaid
Wrth holi’n swrth fel hyn:
“Oes rhaid i chi’r oedolion
Droi’r byd yn ddu a gwyn?”

Rachel James
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

27 eiliad