Episode details

Available for over a year
Mae doethion i’w cael eto yn nyddiau nawr ein hoes - Tîm Crannog a Ffostrasol, heb sôn am Tanygroes. Dim nawr rhwng dau lwmp camel na chefn asyn chwaith: Fe’m gwelwch nawr mewn pic-yp neu dractor ar ein taith. ’Rôl dwy fil o flynyddoedd, cyn bod hi yn tŵ lêt, Ar bererindod aethom - gweld baban Wil a Kate. Dim aur i’w gael nawr mwyach, na bellach myrr na thys - Yn ‘Boots’ fe welsom gynnig: ‘Perfumes you cannot miss’. ’Rôl tyrio ein pocedi, rhyw gasgliad fach a fu, Gael gwneud yn fawr o’r cynnig ‘Buy two and get one free’. A lan ’r Em Ffôr yr aethom drwy’r glaw a’r cesair cas, Dim seren fri a welsom, ond canlyn golau glas. Medd Emyr nawr wrth Idris, “Ar goll yr ydym, gwlei” Pan glywyd heddwas haerllug - “Keep moving, go away”. Cyrhaeddom nawr ein targed, dim gwely gwellt ’n y lle Ond cawell blasdig fechan, H.P., gawd ar y we. Yn lle yr ych yn brefu, sŵn drôn oedd yn y nen, A thwll egsost y pic-yp yn cyseinio â Big Ben. Medd Kate yn awr wrth ddefro, “Dy dyrn di i godi, Will. Mae Siôr bach wedi dihuno, a’r siambar hyd y fyl.” Arwel Jones 9
Programme Website