Main content

Can: Doethion

Can: Doethion

Mae doethion i’w cael eto yn nyddiau nawr ein hoes -
Tîm Crannog a Ffostrasol, heb sôn am Tanygroes.
Dim nawr rhwng dau lwmp camel na chefn asyn chwaith:
Fe’m gwelwch nawr mewn pic-yp neu dractor ar ein taith.
’Rôl dwy fil o flynyddoedd, cyn bod hi yn tŵ lêt,
Ar bererindod aethom - gweld baban Wil a Kate.
Dim aur i’w gael nawr mwyach, na bellach myrr na thys -
Yn ‘Boots’ fe welsom gynnig: ‘Perfumes you cannot miss’.
’Rôl tyrio ein pocedi, rhyw gasgliad fach a fu,
Gael gwneud yn fawr o’r cynnig ‘Buy two and get one free’.
A lan ’r Em Ffôr yr aethom drwy’r glaw a’r cesair cas,
Dim seren fri a welsom, ond canlyn golau glas.
Medd Emyr nawr wrth Idris, “Ar goll yr ydym, gwlei”
Pan glywyd heddwas haerllug - “Keep moving, go away”.
Cyrhaeddom nawr ein targed, dim gwely gwellt ’n y lle
Ond cawell blasdig fechan, H.P., gawd ar y we.
Yn lle yr ych yn brefu, sŵn drôn oedd yn y nen,
A thwll egsost y pic-yp yn cyseinio â Big Ben.
Medd Kate yn awr wrth ddefro, “Dy dyrn di i godi, Will.
Mae Siôr bach wedi dihuno, a’r siambar hyd y fyl.”

Arwel Jones
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau