Episode details

Available for over a year
Bûm yn caru ‘da efeilliaid, enwau’r brodyr - Tud a Len: Yr oedd Tud yn eitha’ bisyn - Ond gan Len yr oedd y pen. Ambell waith, rhaid i’m gyfadde’ ,anodd gwybod p’un oedd p’un - Ond gan bod dim neb yn cwyno , roedd 'na ddau i blesio un!. Roedd y bois yn garwyr teidi –yn fy marn ddibrofiad i – Tra roedd Tud yn fodlon mentro, nid oedd Len yn cweit mor hy. Anodd felly dewis rhyngddynt, er nad oedden nhw mewn hast I mi ddewis – pawb yn fodlon a dim neb yn mynd yn wast! Ond un flwyddyn yn ddisymwth wnaeth ein byd bach chwalu ‘n lân, Pan enillon nhw y lotri - a phenderfynu byw’n wahân......... Teithiodd Tud bant i alltudiaeth, ond , er syndod mawr i mi, Gwnaeth Len bach tawel benderfynu cael “makeover” - jist am sbri! O ryfedd fyd! Aeth Len yn fodel, dangos dillad isa’ dyn - Calvin Klein, Beckhams a Gucci , Marcs a Spencer - ym mhob llun Roedd ei gorff yn sgleinio’n iachus, dan sawl haenen o dan ffêc Muscles nwydus – gwallt trwsiadus – credwch fi, doedd dim mistec! Gyda’i wallt yn felyn llachar fel sawl seren aur y nen – Llygaid glas direidus befriai– secsi iawn yr ydoedd Len! Dyn cyfoethog, pert a pheniog – wel, roedd ‘newis nawr yn glir Da Len newydd byddaf fwyach, yn mwynhau hapusrwydd pur! Carol Burne Jones 8.5
Programme Website