Can: Dalen Newydd
Can: Dalen Newydd
Bûm yn caru ‘da efeilliaid, enwau’r brodyr - Tud a Len:
Yr oedd Tud yn eitha’ bisyn - Ond gan Len yr oedd y pen.
Ambell waith, rhaid i’m gyfadde’ ,anodd gwybod p’un oedd p’un -
Ond gan bod dim neb yn cwyno , roedd 'na ddau i blesio un!.
Roedd y bois yn garwyr teidi –yn fy marn ddibrofiad i –
Tra roedd Tud yn fodlon mentro, nid oedd Len yn cweit mor hy.
Anodd felly dewis rhyngddynt, er nad oedden nhw mewn hast
I mi ddewis – pawb yn fodlon a dim neb yn mynd yn wast!
Ond un flwyddyn yn ddisymwth wnaeth ein byd bach chwalu ‘n lân,
Pan enillon nhw y lotri - a phenderfynu byw’n wahân.........
Teithiodd Tud bant i alltudiaeth, ond , er syndod mawr i mi,
Gwnaeth Len bach tawel benderfynu cael “makeover” - jist am sbri!
O ryfedd fyd! Aeth Len yn fodel, dangos dillad isa’ dyn -
Calvin Klein, Beckhams a Gucci , Marcs a Spencer - ym mhob llun
Roedd ei gorff yn sgleinio’n iachus, dan sawl haenen o dan ffêc
Muscles nwydus – gwallt trwsiadus – credwch fi, doedd dim mistec!
Gyda’i wallt yn felyn llachar fel sawl seren aur y nen –
Llygaid glas direidus befriai– secsi iawn yr ydoedd Len!
Dyn cyfoethog, pert a pheniog – wel, roedd ‘newis nawr yn glir
Da Len newydd byddaf fwyach, yn mwynhau hapusrwydd pur!
Carol Burne Jones
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 12/01/2014
![]()
Englyn: Weiren Bigog
Hyd: 00:17
![]()
Englyn: Weiren Bigog
Hyd: 00:10
![]()
Carol Blygain: Gwyrth y Geni
Hyd: 00:51
![]()
Carol Blygain: Gwyrth y Geni
Hyd: 01:40
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29






