Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2013

Telyneg neu Soned: Trwsio.

Y Talwrn

Available for over a year

Mae maes brwydr Culloden ger Inverness – pan laddwyd 1,500 o Jacobeits mewn awr gan fyddin y llywodraeth yn 1746 –wedi’i gadw fel yr oedd, gydag enwau’r clan ar y beddau hirion. Nid swn ymladd ond adar a lliwiau blodau’r haf sydd yno heddiw ac mewn canolfan dreftadaeth newydd ysblennydd, edrych yn ôl a chofio cyn camu ymlaen at ddyfodol newydd ydi’r naws. Rhos y colledion yw Culloden, mawn a’i ddŵr yn ceulo’n ddu dan draed y co’, y dagrau’n crynu, fel y niwl go iawn, a’r ofn – a’r nerth – i ddod am dro. Wrth feini’r beddau torfol, y mae tad yn galw’i fab a dangos enw’r clan a dweud lle’r aeth yn grïau frethyn gwlad yr union deulu yn yr union fan. Ar do’r lle bwyd, mae rhestrau’r un un enwau’n rhengoedd – clod i’r noddwyr hyn sy’n creu edafedd newydd dros yr hen rwygiadau: dod â grug a banadl ac ail-weu ysgallen haf drwy ffos a bedd a baw a chodi hedydd cân ar ôl y glaw. Myrddin ap Dafydd 9.5 Cyfanswm Marciau: 74

Programme Website
More episodes