Episode details

Available for over a year
Bu'r tri ohonom uwch ein peintiau'n fud am awr yn gwylio'r machlud newydd hwn, a dim ond swn a rheg rhyw Sais o hyd yn fwrn. Sawl gwaith ddigwyddodd hyn? Ni wn. Sawl noson dawel gyda'r mor ei hun yn ddarfod llonydd ac yn hepian hardd, gan guro'r artist fynnodd dynnu'i lun, y rhegwr hwn o Sais ac ambell fardd? Gall rhywun gynnig delwedd: rhosyn rhudd, a'i holl betalau hyd y tonnau'n fflam; neu ymroi â phaent, ond pa ddiben sydd, heb sut na phwy i'n poeni, dim ond pam? Mae'n awr o aros y diflaniad chwim, a waeth i minnau ddechrau rhegi, ddim. Dafydd John Pritchard 9.5 Cyfanswm Marciau: 72.5
Programme Website