Episode details

Available for over a year
Ychydig win cewch yfed ’n ôl hanes, medden nhw - Paham mae danedd gosod ar lawr y portalŵ? Mewn sioe, i’m gwin gwsberis, i roi ’pyn bach o sbarc, Daeth potel wisgi’n handi er mwyn im gael deg marc. Y botel win cynigais, ei hanner o’m gwaith i, Penderyn ’r hanner arall o ddŵr y mynydd du. Y beirniad fu yn garglo, mor hoff yr oedd o’i sawr Heb golli’r un diferyn am bron bod hanner awr. Â’i dafod dew cawd bregeth clodfori nghampwaith i: Roedd hon yn bregeth swmpus, ’r un modd â Jiwbilî. Medd ef, “’R ôl dŵr y diafol, nawr mwy o syched sydd Ac erbyn wal raid myned a ‘gollwng ef yn rhydd’”. Mor falch buasai Ioan yn y diffeithwch llwm Gael hwn lladd blas locustiaid a mêl y cachgi bwm A rhwng dau lwmp ei gamel, mynd adre gyda blas Heb eisiau pip dros ysgwydd a gweld hen olau glas. Mae gennyf gwpan arian yn gwffe mawr i gyd ’R ôl noson y gwobrwyo, a’r beirniad yn ei hyd. Arwel Jones 9.5
Programme Website