Episode details

Available for over a year
I ddiolch am lwyth o dail gan fy mrawd yng nghyfraith Amheuthun ydoedd, Mathew, Arogl tail trioglyd tew Dy domen pan roist imi Drysor llaith dy wrtaith di. O’i roi’n yr hen gramen grin Ar waith ym Mancyreithin, Yn iach eilwaith dychwelodd Lliwiau’r haf. Pa raid gwell rhodd? Baw bendigedig ydyw! Uwch y clawdd fy niolch clyw Yn sawr y rhosynnau sy I’w gweld dan do’r Ysgoldy. [Bancyreithin – fy nghartref i; Yr Ysgoldy – cartref Mathew] Huw Meirion Edwards 9.5
Programme Website