Episode details

Available for over a year
Bu gennyf stafell sbâr, ond mae wedi ei thrawsnewid Ers i mi ddarllen cyfrol a wyrdrôdd gwrs fy mywyd. Mae Petha, gallech dybio, yn denau a disylwedd, Ond nid mewn milimedrau y dylid mesur mawredd. Cysegrfan yw bellach, lle penliniaf bob nos Gerbron yr allor sy’n dal delw hardd o Jôs. Mae yma ffotograffau lu a dynnais i fy hunan Efo lwmp o delephoto lens o gopa Garn Boduan, Lle treuliais oriau meithion yn syllu drwy sbienddrych Ar brifardd grymus Giatgoch, ar gawr y cerddi gorwych. Wfft i Neigwl, Sbargo a’r Ap, cans dyma’r pos: Sut ddaeth prydyddion gwlad fel rhain i gwmni Jôs? Mewn fframiau ar y wal, mae darn o’i wallt a blewyn llygad, Pâr o boxer shorts o’i eiddo wedi’u bachu o’r lein ddillad, A chopi o sawl cân Talwrn yn ei sgrifen o ei hunan. Ar kitchen roll, wrth reswm – mae hwnnw’n hir a llydan. Heno, mewn gweithred hyfryd o wrogaeth dlos, Offrymaf y ddwy linell sbâr o’m cân i Jôs. Arwel Roberts 9.5
Programme Website