Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,05 Apr 2026,27 mins

Portmeirion yn 100

Lleisiau Cymru

Available for over a year

Wrth i Bortmeirion ddathlu ei ganmlwyddiant dros y Pasg 2026, Betsan Anwyl sy’n mynd ar drywydd rhai o hanesion hynod y pentref gwyliau Eidalaidd ei naws – a hynny trwy gyfrwng gwrthrychau a gofnodir yn archifau’r Sied Fawr. Cawn glywed am y wraig ecsentrig oedd yn byw yn y tŷ mawr cyn i’r lle agor fel gwesty, a’r adroddiad llys yn ei herbyn am fwydo ei chŵn niferus â bara a llaeth yn ystod cyfnod dogni’r Rhyfel Byd Cyntaf. Daw disgrifiad cynnar o’r gwesty o’r daflen a ddyluniwyd gan y pensaer Clough Williams-Ellis i hyrwyddo’r lleoliad yn 1925. Ar y pryd, byddai dŵr yn cael ei gludo gan ddisgyrchiant o’r bryn gerllaw; doedd dim gwres canolog ond digon o dannau mawr agored; dim lifft ond grisiau derw llydan. Bydd pensaer sy’n gwneud gwaith ym Mhortmeirion heddiw yn edrych trwy hen gatalog arwerthiant Neuadd Emral yn y Fflint yn 1936 ac yn sôn sut aeth Clough yno ar frys i achub nenfwd rhyfeddol Ercwlff, ei brynu am £13 a’i gludo yn ôl i Bortmeirion. Ymhlith eitemau eraill gaiff sylw mae llythyr personol gan y sgwennwr Jan Morris at reolwr y gwestai, a cherdyn gwestai cyn reolwr y Beatles, Brian Epstein. Roedd e’n ymwelydd cyson yn y 1960au a byddai’r dyddiadau ac enwau tai’r pentref lle byddai’n aros yn cael eu nodi ar y cerdyn.

Programme Website
More episodes