Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,22 Mar 2026,27 mins

22/03/2026

Yfory Newydd

Available for 14 days

Rhaglen sy'n crynhoi gwaith arloesol Cymry ar ddarnau lleiaf popeth electronig ni'n defnyddio bob dydd, o ffôn symudol i gyfrifiadur, o beiriant golchi i gar. Lled-ddargludyddion yw eu henw - 'semi-conductors', ac yng Nghymru mae yna glwstwr o gwmniau sydd yn arwain y byd yn datblygu y mathau diweddaraf. Mae hyn hefyd yn seiliedig ar waith ymchwil prifysgolion . Byddwn yn cyfarfod Nerys Griffith ym Mhrifysgol Caerdydd, a'r Athro Emrys Evans ym Mhrifysgol Abertawe. Ond byddai hyn ddim wedi bod yn bosib heb wyddonwyr cynnar, pan oedd teclynnau electronig yn dechrau datblygu. Byddwn yn siarad gyda’r Athro Alan Shore sydd wedi treulio ei yrfa yn y maes, ac sydd yn canu clodydd Yr Athro Robin Williams - a oedd yno reit ar y dechrau ac a wnaeth gwaith ymchwil allweddol yn y maes. Efallai bod y term Silicon Valley yn gyfarwydd i chi yn nhermau lled-ddargludyddion - ond oherwydd ein gwyddonwyr yng Nghymru - mae De Ddwyrain Cymru yn ganolfan byd eang datblygu lled-ddargludyddion cyfansawdd - fel cwmni IQE yn Llaneirwg, lle mae Dr Iwan Davies yn arwain y gwaith. Bydd defnyddio ffôn symudol byth yr un fath eto!

Programme Website
More episodes