Episode details

Available for 29 days
Dyw’r cwmni heddiw ddim wedi cael bywyd hawdd ac mae hynny'n deillio o gyfnod plentyndod pan gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan ei thaid. Mae'n teimlo'n gryf bod angen iddi ddweud ei stori am nad yw'r pwnc yn ei barn hi yn cael ei drin mor agored ac y dyle fe. Ar hyd y blynyddoedd mae Annie Maycox wedi dioddef o iselder ac roedd hi'n troi at fwyd i leddfu rhywfaint ar yr atgofion. Canlyniad hynny oedd iddi fagu pwysau a chyrraedd dros 20 stôn. Mae'n ddiolchgar am yr help mae wedi cael gan wahanol gyrff a nawr mae hi'n cymryd mounjaro ac wedi colli 5 stôn mewn 9 mis. Mae Annie yn gweithio fel colurwraig theatr a'r cyfryngau. Bu'n gweithio ar gyfres ddrama 'Skins' ar gyfer Sianel 4, ac E4, Rownd a Rownd ac mae hi wedi gweithio gyda Caprice y cyn model, ac actorion megis David Charles Prowse - Darth Vader, a Toby Kebbell. Bellach mae ganddi gwmni gwneud fideos pop gyda'i gŵr Jamie. Cawn hanesion ei bywyd, ac mae'n dewis 4 cân, yn cynnwys cân gan Elin Fflur a'r gân olaf “Standing With You” gan Guy Sebastian. Trafodir cam-drin rhywiol yn y bennod hon o Beti a'i Phobol. Os ydych chi wedi’ch effeithio gan gynnwys y rhaglen yna mae gwybodaeth am fudiadau gall helpu ar gael trwy fynd i BBC Action Line bbc.co.uk/actionline
Programme Website