Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,18 Jan 2026,49 mins

Meinir Gwilym

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Meinir Gwilym, y gantores sydd wedi cynhyrchu 6 albwm dros 20 mlynedd, yw gwestai Beti George. Mae hi hefyd yn gyflwynwraig radio a theledu, ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi Garddio a Mwy ar S4C - ac yn aelod o'r grŵp Pedair. Cawn ei hanes ym Mhatagonia gyda Pedair a datblygiad y grŵp. Mae hi'n trafod heriau cerddorion Cymraeg a'r gostyngiad mewn breindaliadau, effaith y llwyfannau digidol a pa mor anodd ydi hi bellach i wneud bywoliaeth fel cerddor. Fe fydd yn trafod crefydd ac fe gawn glywed sut mae hi'n mynd ati i greu caneuon a phwysigrwydd geiriau, a’r ysbrydoliaeth sy’n dod o brofiadau bywyd. Mae bywyd personol a chefndir teuluol Meinir Gwilym yn cael sylw, gan gynnwys hanes y teulu, perthynas â rhieni a brodyr, a’r dylanwad cerddorol yn y cartref. Mae’r sgwrs yn cynnwys atgofion am blentyndod, addysg, a’r ffordd y mae cerddoriaeth yn rhan annatod o’r teulu.

Programme Website
More episodes