Episode details

Available for 33 days
Iolo Williams y naturiaethwr, awdur a'r cyflwynydd poblogaidd ar raglenni natur ar BBC Cymru ac ar y rhwydwaith Prydeinig yw gwestai Beti George. Mae’n adnabyddus am raglenni fel Springwatch, Autumnwatch a’i gyfres ei hun ‘Wild Wales’ ac mae wedi cyflwyno rhaglenni Radio Cymru, Galwad Cynnar a chyfres Sarn Helen. Mae'n trafod dylanwad ei Daid arno ac yn sôn am ei Dad fel ei arwr " dyn cadarn, gonest oedd yn trin pawb 'run fath". Cawn hanesion ei fagwraeth yn Llanwddyn, ei gyfnod yn Ysgol Gynradd Llanwddyn ble 'roedd ei Dad yn Brifathro ac wedyn yn yr Ysgol Uwchradd Llanfyllin, lle y byddai Iolo yn aml yn triwanta. Mae'n trafod ei gyfnod yn y coleg yn Llundain ac y bu bron iddo ymuno â'r fyddin ar ôl ei arholiadau Lefel O. Yn 2023 cafodd drawiad ar y galon a strôc ond adferodd yn dda, diolch i weithredu cyflym a gofal gan y GIG. Mae'n trafod y cyfnod yma ac yn sôn nad ydi o ofn marw " mae marw yn rhan o fyw", ac ein bod yn cael " un go ar fywyd".
Programme WebsiteTracklist
- TrackArtist
- 1.Rhedeg i ParisRhedeg i ParisAnhrefn
- 2.MyfanwyMyfanwyJoseph Parry & Richard Davies
- 3.HeroesHeroesDavid Bowie
- 4.Hells BellsHells BellsAC/DC