Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,29 Jun 2025,49 mins

Gethin Evans

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Gwestai Beti George yw Gethin Evans, mae'n ddigrifwr stand-up, mae ei lais yn gyfarwydd i ni ar Radio Cymru, yn cyflwyno gigs comedi ac yn aelod o Fand Pres Llanreggub, ac mae'n dad i ddau o blant. Ond mae ei waith bob dydd yn heriol, mae'n gweithio llawn amser i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ymwneud â digido holl fanylion y gwasanaeth iechyd meddwl. Daw yn wreiddiol o Dremadog, ac fe aeth o i Ysgol Gynradd Eifion Wyn - Porthmadog ac wedyn yn ei flaen i Ysgol Eifionydd. Bu'n gweithio gydag elusen Gisda, a bu'n gweithio gyda Community Music Wales. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys Anweledig a MC Mabon.

Programme Website
More episodes