Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,15 Jun 2025,49 mins

Bethan Sayed

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Yn rhan o dymor Merthyr BBC Cymru mae Beti George yn holi Bethan Sayed, gwleidydd gafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2007 pan oedd hi’n 25 mlwydd oed. Roedd hi'n bach o rebel yn yr ysgol gynradd ac yn y cynulliad yn adnabyddus am draethu'n blwmp ac yn blaen, ac yn barod iawn i herio'r drefn. Fe benderfynodd beidio sefyll yn etholiad 2021, gan nad oedd yn hapus gyda'r hyn oedd yn digwydd yn ei phlaid, Plaid Cymru ac fe benderfynodd ganolbwyntio ar y teulu. Mae hi'n briod â Rahil Sayed sydd yn ymgynghorydd busnes ac yn gweithio yn y byd ffilm Bollywood, ac yn creu ffilmiau yng Nghymru ar gyfer India a'r byd. Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys cân gan Sobin a'r Smaeliaid; 'roedd hi'n ffan o Bryn Fôn tra'n tyfu fyny ym Merthyr.

Programme Website
More episodes