Episode details

Available for over a year
Drama gan Manon Eames. Mae'n siŵr bod sawl rhiant yn ardal Bangor a Biwmares wedi bygwth eu plant gyda sbel ar fwrdd "y llong hogia drwg" - y Clio, angorwyd ar y Fenai, ger y Garth ym Mangor, yn 1877. Mae Dafydd Henry Williams, o Hirael, Bangor, yn pledio yn euog yn 1905 i ddwyn tair doli, pêl-droed a basged ffansi o farchnad Bangor, ac yn cael ei anfon i'r Clio gyda'r ddedfryd o gael ei gadw yno hyd at ei benblwydd yn 16 oed. Er taw pwrpas y Clio oedd addysgu bechgyn o gefndir tlawd ar gyfer bywyd ar y môr - profiad gwahanol iawn oedd yn disgwyl y bechgyn yma ar y Clio. Cast Gwyneth – Manon Wilkinson Dafydd – Sion Davies Ynad – Julian Lewis Jones John Jones – Sion Pritchard Huw – Ben Jones Capten Langdon - Julian Lewis Jones Esgob Bangor – Ian Saynor Deon Bangor – Arwel Gruffudd Kitty - Eos Fflur Gibson
Programme Website