Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,19 Dec 2022,55 mins,

Buchedd Greta: Gwinllan Wyllt

Drama ar Radio Cymru
Contains very strong language.

Available for over a year

Buchedd Garmon gan Saunders Lewis oedd y ddrama radio gyntaf yn y Gymraeg i’r BBC ei chomisiynu yn 1937 ar yr union adeg, mi oedd y dramodydd yn aros am ei achos llys am y tanau ym Mhenyberth. Ar y diwrnod y darlledwyd y ddrama, mi oedd Saunders Lewis yn y carchar. I nodi canmlwyddiant y BBC, mae Radio Cymru yn ail-ymweld â themâu’r ddrama ond o safbwynt y plentyn dall sy’n cael ei wella gan Garmon yn y ddrama. Drwy gerddoriaeth newydd a hiwmor ffres mae Seiriol Davies a Hanna Jarman yn troi’r ddrama ben i waered ac yn holi pwy sy’n penderfynu beth yw hunaniaeth rhywun? A beth sy’n gwneud Cymru bur? Cast: Mared Jarman Gillian Elisa Iestyn Arwel Gruffudd Glyn Sion Ifan Carys Eleri Awdur: Hanna Jarman a Seiriol Davies Cyfansoddwr: Seiriol Davies Cynhyrchydd cerddoriaeth: Branwen Munn Trefnydd cerddorol: Geraint Owen

Programme Website
More episodes