Episode details

Available for over a year
Asyn yw Ari ond nid asyn cyffredin mohoni. Cafodd ei magu yng nghartref hen wraig garedig ond a hithau bellach yn byw mewn gwarchodfa asynnod, mae hi’n dyheu am gael byw eto ymhlith pobl. Ar ôl iddi gael ei chludo i gartref newydd arall, mae cyfeillgarwch annisgwyl yn tyfu rhyngddi hi a rebel o asyn afreolus, ac yn sydyn daw’n ymwybodol o’i chaethiwed. Yr actorion yw Gwenllian Higginson, Evie Barr, Dewi Rhys Williams, Simon Watts, Aled Pugh, a Llew Rodrick Lewis. Comisiynwyd Gwlad yr Asyn yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru, a’i chyflwyno gyntaf fel drama lwyfan – wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly – gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr.
Programme Website