Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,17 Mar 2019,50 mins

Siân Tesni

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Uwch-ymgynghorydd addysg i CBM yw Siân Tesni, sef elusen sy'n gweithio i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau yn rhai o wledydd tlota'r byd. Mae gan bawb hawl i addysg, yn ôl Siân, a sicrhau chwarae teg i blant ag anableddau yw prif bwyslais ei gwaith. Yn ferch i bobydd, cafodd ei magu ym Mhencae ger Llanarth. Dechreuodd ymddiddori mewn byddardod pan oedd yn yr ysgol, a datblygodd y diddordeb wrth iddi hyfforddi fel athrawes. Yn 1989, enillodd ysgoloriaeth i ymchwilio i hawliau plant byddar yn Singapore, Papua Guinea Newydd ac Indonesia. Wedi gorffen yr ymchwil, dechreuodd weithio i CBM ym Mhapua Guinea Newydd, gan aros yno am saith mlynedd. Mae'n parhau i deithio'n helaeth gyda'i gwaith, ond yn mwynhau ochr ysgafn bywyd hefyd, yn enwedig mynd i gigs gyda'i mab.

Programme Website
More episodes