Siân Tesni
Beti George yn sgwrsio â Siân Tesni, uwch-ymgynghorydd addysg elusen CBM. Beti George chats to Siân Tesni, senior education advisor with the CBM charity.
Uwch-ymgynghorydd addysg i CBM yw Siân Tesni, sef elusen sy'n gweithio i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau yn rhai o wledydd tlota'r byd.
Mae gan bawb hawl i addysg, yn ôl Siân, a sicrhau chwarae teg i blant ag anableddau yw prif bwyslais ei gwaith.
Yn ferch i bobydd, cafodd ei magu ym Mhencae ger Llanarth.
Dechreuodd ymddiddori mewn byddardod pan oedd yn yr ysgol, a datblygodd y diddordeb wrth iddi hyfforddi fel athrawes.
Yn 1989, enillodd ysgoloriaeth i ymchwilio i hawliau plant byddar yn Singapore, Papua Guinea Newydd ac Indonesia.
Wedi gorffen yr ymchwil, dechreuodd weithio i CBM ym Mhapua Guinea Newydd, gan aros yno am saith mlynedd.
Mae'n parhau i deithio'n helaeth gyda'i gwaith, ond yn mwynhau ochr ysgafn bywyd hefyd, yn enwedig mynd i gigs gyda'i mab.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
![]()
Edward H Dafis
Pishyn
- Hen Ffordd Gymreig O Fyw.
- SAIN.
- 5.
![]()
Côr Meibion Taf
Gwinllan A Roddwyd
![]()
Nathaniel Tipitup
Yesu
![]()
Status Quo
Down Down
- Whatever You Want - V.Best Of Status.
- Polygram Tv.
Darllediadau
- Sul 17 Maw 201912:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
- Iau 21 Maw 201918:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru
- Iau 16 Ion 202018:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Podlediad
![]()
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people



