Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,05 Nov 2017,49 mins

Sel Williams

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Beti George yn holi Sel Williams o Ffestiniog. Wedi cyfnod o ansicrwydd ynghylch beth i'w wneud ar ôl graddio, i fyd addysg yr aeth yn y pen draw, gan dreulio blynyddoedd lawer ym Mhrifysgol Bangor. Yno, bu'n gweithio ar gyrsiau newydd, gan gynnwys rhai'n ymwneud â datblygiad cymunedol. Does ryfedd, felly, mai'r gymuned leol yw un o'r pethau pwysicaf yn ei fywyd ar ôl ymddeol. Mae tua dwsin o fentrau cymunedol yn Ffestiniog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae Sel yn pwysleisio pa mor hanfodol ydyn nhw yng nghyd-destun un o ardaloedd tlotaf Gorllewin Ewrop. Mae ganddo deimladau cryf am Gymru hefyd, a chyfraniad posib y wlad a'i phobl i'r byd yn ehangach. Ai'r cyfryngau cymdeithasol ydi'r ateb, tybed, yn hytrach na dibynnu ar sefydliadau fel prifysgolion?

Programme Website
More episodes