Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,24 Sep 2017,50 mins

Eleri Fôn Roberts

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Beti George yn sgwrsio gydag Eleri Fôn Roberts o Lanfairpwll. Yn blentyn swil dros ben, cafodd ei hanfon i ysgol breifat i fagu hyder, ac mae'n diolch i'w rhieni am y penderfyniad hwnnw. Ar ôl colli ei thad, ei brawd a'i darpar ŵr o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, aeth i Henffordd i ddechrau o'r newydd. Bu'n gweithio fel nyrs yng Nghaeredin hefyd, ond daeth yn ôl i ogledd Cymru a dechrau canolbwyntio ar weithio gyda phlant a'u teuluoedd. Wrth sgwrsio gyda Beti, mae'n ymddeol fel nyrs arbenigol i blant gyda chanser, ac yn edrych ymlaen at wneud rhywfaint o deithio.

Programme Website
More episodes