Eleri Fôn Roberts
Beti George yn sgwrsio gydag Eleri Fôn Roberts wrth i'w gyrfa helaeth fel nyrs ddod i ben. Beti George chats with Eleri Fôn Roberts at the end of an extensive nursing career.
Beti George yn sgwrsio gydag Eleri Fôn Roberts o Lanfairpwll.
Yn blentyn swil dros ben, cafodd ei hanfon i ysgol breifat i fagu hyder, ac mae'n diolch i'w rhieni am y penderfyniad hwnnw.
Ar ôl colli ei thad, ei brawd a'i darpar ŵr o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, aeth i Henffordd i ddechrau o'r newydd. Bu'n gweithio fel nyrs yng Nghaeredin hefyd, ond daeth yn ôl i ogledd Cymru a dechrau canolbwyntio ar weithio gyda phlant a'u teuluoedd.
Wrth sgwrsio gyda Beti, mae'n ymddeol fel nyrs arbenigol i blant gyda chanser, ac yn edrych ymlaen at wneud rhywfaint o deithio.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 24 Medi 201712:00BBC Radio Cymru
- Iau 28 Medi 201718:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people


