Konstantin Lee
Tenor o Dde Corea, 28 oed
Dechreuodd Konstantin ganu mewn côr plant yn saith mlwydd oed. Enillodd ei radd a’i radd Meistr o Goleg Cerddoriaeth y Brifysgol Genedlaethol yn Seoul. Mae wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys dod yn gyntaf yng Nghystadleuaeth Llais Corea, Cystadleuaeth Ganu Neue Stimmen a SWR Junge Opera Stars yn yr Almaen, yn ogystal â Chystadleuaeth Luis Sigall yn Chile.
Ei berfformiad operatig cyntaf oedd Alfredo yn La Traviata yn Nhŷ Opera Canolfan Gelfyddydau Seoul. Ers hynny mae Konstantin wedi canu rhan Rodolfo yn La Bohème a Nemorino yn L’elisir d’amore. Mae hefyd wedi teithio fel unawdydd gyda phrif gerddorfeydd Corea, China, Japan a Chile. Yn ddiweddar gwnaeth ei berfformiad Ewropeaidd llwyddiannus cyntaf yn rhan Ferrando yn Così fan tutte yn Theater Freiburg.
Ar hyn o bryd mae’n paratoi ar gyfer arholiad y Konzert yn yr Hochschule für Musik und Theater Hamburg ac mae’n disgwyl graddio’r haf yma.
Repertoire
| Main prize rep | Concert 2 | |
|---|---|---|
| Una furtiva lagrima | L’elisir d’amore | Donizetti |
| È la solita storia del pastore … Anch’io vorrei dormir così | L’arlesiana | Cilea |
| Ah! mes amis | La fille du régiment | Donizetti |
| Song prize | Recital | |
|---|---|---|
| Don Juan’s Serenade | Op 38 No 1 | Tchaikovsky |
| Der Kuss | Op 128 | Beethoven |
| Soupir | Duparc | |
| Benedetto sia’l giorno | Sonetto 47 di Petrarca | Liszt |


