Main content

J’nai Bridges

Mezzo-soprano o'r UDA, 28 oed

Rwyf yn dod o Lakewood, Washington, ac astudiais yn Ysgol Gerdd Manhattan ac Athrofa Gerdd Curtis, ble perfformiais Idamante Idomeneo, prif ran Carmen yn La tragédie de Carmen Peter Brook a Baba'r Twrc yn The Rake’s Progress. Mae'r gwobrau yr wyf wedi'u hennill yn cynnwys gwobr Marian Anderson 2012; gwobrau yng Nghlyweliadau Cyngor Cenedlaethol Opera Metropolitan; Gwobr Sullivan 2013; Gwobr Cynghrair yr Undeb 2013 a Grant Astudio Sara Tucker 2011.

Rwyf yn aelod o Opera Telynegol Canolfan Opera Ryan yn Chicago ble roedd perfformiadau yn 2014-2015 yn cynnwys Inez Il trovatore a Vlasta The Passenger gydag Opera Telynegol Chicago. Yn ystod tymor 2013-2014, cenais ar y prif lwyfan gydag Opera Telynegol Chicago fel Morwyn Flodau Parsifal, Flora La traviata ac Ail Nymff Bren Rusalka. Ymddangosais fel unawdydd gyda Cherddorfa Symffoni Chicago yn Chanson Madecasses Ravel, ac ymddangosais ar y radio ar gyfres datganiadau WFMT 98.7. Y tu hwnt i hynny rwyf wedi perfformio Adalgisa Norma gydag Opera Knoxville a phrif ran Carmen ar gyfer Opera Finger Lakes. Mae ymddangosiadau cyngerdd yn cynnwys Theresienmesse Haydn, Requiem Rutter, Messiah Handel, Gloria Vivaldi a Sea Pictures Elgar.

Yn y dyfodol agos byddaf yn perfformio Suzuki Madama Butterfly gydag Opera Wolftrap.

Rwyf wrth fy modd yn canu'r piano, dawnsio salsa a chwarae pêl-fasged. Rwy'n mwynhau teithio a bod gyda fy nheulu hefyd.